Three racing greyhounds speed round a sandy track

Cut the Chase

Read this page in English.

Yn dilyn deiseb yn galw am wahardd rasio milgwn yng Nghymru a ddenodd dros 35,000 o lofnodion, mae Pwyllgor Deisebau’r Senedd wedi argymell y dylai’r arferiad ddod i ben yn y wlad.

Dywedodd Prif Weithredwr Blue Cross, Chris Burghes: “Mae argymhelliad y Pwyllgor Deisebau i wahardd rasio milgwn yng Nghymru yn gam sylweddol tuag at y dyfodol mwy tosturiol y mae arnom ei angen i ddiogelu cŵn sy’n cael eu hecsbloetio ar gyfer adloniant. 

“Mae miloedd o filgwn yn cael eu hanafu yn enw’r ‘gamp’ hon, ac rydym yn ymrwymedig i atal eu dioddefaint. 'Nawr yw’r amser i Lywodraeth Cymru weithredu a chymryd safiad cadarn yn erbyn diwydiant sy’n elwa'n ddyddiol ar beryglu lles.”

Roedd argymhellion adroddiad Pwyllgor Deisebau'r Senedd yn cynnwys:

  • Gwaharddiad graddol ar rasio milgwn yng Nghymru
  • Gwella lles cŵn yn y diwydiant trwy gydol eu hoes, gan gynnwys cyn ac ar ôl eu gyrfaoedd rasio. Diogelu lles cŵn rasio sy’n teithio trwy Gymru.

Darllenwch adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Y Tro Olaf? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru'.

Ar hyn o bryd, mae argymhellion y pwyllgor yn parhau i fod yn gynnig i Lywodraeth Cymru, y disgwylir iddi ymateb iddo yn y Flwyddyn Newydd. Bydd y mater hefyd yn cael ei drafod yn y Senedd. Dangoswch eich cefnogaeth i ddod â rasio milgwn i ben yng Nghymru trwy anfon neges e-bost at eich Aelod o'r Senedd a gofyn iddo gefnogi’r argymhellion yn y Senedd.

Peryglus? Ydy wir. 

Beth am beidio â malu awyr? Nid oes yna le i rasio milgwn mewn cymdeithas fodern. 

Ni ddylai bywyd anifeiliaid fod yn fater o lwc, ac eto mae miloedd o gŵn yn rhan o'r diwydiant bob blwyddyn, gyda nifer ohonynt yn wynebu bywyd ansicr, anafiadau a hyd yn oed marwolaeth yn enw chwaraeon, hwyl ac elw. 

Yma yn Blue Cross, rydym yn galw am i rasio milgwn ddod i ben cyn gynted â phosibl. Rydym wedi ymuno â'n cyfeillion yn Dogs Trust, yr RSPCA, Hope Rescue ac Achub Milgwn Cymru i sicrhau bod hyn yn digwydd. 

Mae'n ymddangos bod hyn yn gwbl bosibl yng Nghymru, lle dim ond un trac sydd ar ôl, sef Stadiwm Valley Greyhounds. Mae Cymru yn un o ddim ond deg gwlad yn y byd lle mae rasys milgwn masnachol yn dal i gael eu cynnal – ynghyd â Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, Awstralia, Seland Newydd, Mecsico, Fiet-nam a'r Unol Daleithiau. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i arwain y ffordd ac ymrwymo i roi diwedd ar rasio milgwn fesul cam, ac rydym yn gobeithio y bydd Lloegr yn dilyn. 

Mae'n bryd wynebu'r ffeithiau

  • Mae rasio milgwn yn gamp sy'n rhoi cŵn mewn perygl o gael anafiadau poenus a marw'n gynnar. 
  • Rhwng 2018 a 2021, roedd prosiect Amazing Greys elusen Hope Rescue wedi helpu dros 200 o filgwn rasio. O blith y cŵn hyn, roedd 40 ohonynt wedi dioddef anafiadau difrifol a roddodd ddiwedd ar eu gyrfa, er enghraifft toriadau difrifol lle roedd angen triniaeth sylweddol gan filfeddyg, torri coes i ffwrdd, neu atgyweirio orthopedig.* 
  • Mae'n anodd meintioli gwir nifer yr anafiadau yng Nghymru oherwydd nad oes yna filfeddyg yn bresennol wrth y trac, ac am nad yw'n ofynnol cyhoeddi nifer yr anafiadau a marwolaethau. 
  • Mae data gan Hope Rescue yn dangos mai Cymru, yn rhy aml, yw diwedd y daith i filgwn diangen o Iwerddon a Lloegr, sydd wedi'u hanafu ac sy'n perfformio'n wael. 
  • Nid oes unrhyw reoliadau yng Nghymru sy'n benodol ar gyfer milgwn, ac nid yw'r trac olaf wedi'i drwyddedu. Fodd bynnag, nid yw trwyddedu yn datrys y materion wrth wraidd y diwydiant, ac ni all amddiffyn cŵn rhag risg gynhenid rasio. 
  • Bu farw dros 2,000 o filgwn rhwng 2018 a 2021 ar draciau trwyddedig ym Mhrydain, a chofnodwyd bron 18,000 o anafiadau. 
  • Mae yna lefelau uchel o ‘wastraff’ o'r diwydiant – yn y diwydiant rasio trwyddedig,  mae 50% o'r milgwn a gofrestrwyd i rasio wedi gadael erbyn iddynt gyrraedd 3.5 oed, ac nid yw 90% yn rasio mwyach erbyn iddynt gyrraedd pump oed. 
  • Mae tua 6,000 o filgwn yn gadael y diwydiant trwyddedig bob blwyddyn, a bydd angen i nifer ohonynt ddod o hyd i gartrefi newydd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i elusennau a sefydliadau achub gasglu'r darnau. 
  • Nid yw llawer o'r cŵn yn cael digon o gyswllt cymdeithasol, hyfforddiant na gofal iechyd. 
  • Yn drist iawn, mae hwn yn ddiwydiant sy'n cael ei reoli'n wael ac mewn modd anghyson, heb fawr ddim addysg ffurfiol ar gyfer unigolion nad ydynt yn filfeddygon ac sy'n gweithio yn y sector rasio annibynnol. 
  • Yn ei anterth, roedd yna 250 o draciau trwyddedig yn y DU. Heddiw, dim ond 20 sy'n parhau'n weithredol, gyda dau arall heb eu trwyddedu. 

Cyrraedd y llinell derfyn

Gyda'ch help chi, gallai fod yna well dyfodol i filgwn. 

Rydyn yn annog ein holl gefnogwyr yng Nghymru i gysylltu â'u Haelod o'r Senedd yn galw arno i'n cefnogi i alw am wahardd rasio milgwn. 

Ymunwch â'r mudiad heddiw – Ar eich marciau, barod, gweithredwch. 

*Ni fydd pob un o'r cŵn hyn wedi rasio yng Nghymru, ac mae'n bosibl y bydd rhai ohonynt wedi diweddu eu bywyd rasio y tu allan i Gymru, ond eu bod wedi cael eu hildio i'r prosiect am fod gan eu perchnogion yn y byd rasio gysylltiadau â'r trac yng Nghymru. 
 

— Page last updated 19/12/2022