Archebu eich lle ar Gwrs Perchnogaeth Cŵn Cyfrifol y Groes Las
Dysgwch ragor am Gwrs Perchnogaeth Cŵn Cyfrifol y Groes Las (RDOC) a sut i archebu lle os gofynnwyd i chi gymryd rhan, neu os cawsoch eich atgyfeirio gan yr Heddlu.
Beth yw Cwrs Perchnogaeth Cŵn Cyfrifol y Groes Las?
Mae’r cwrs hwn yn addas i berchnogion cŵn dros 18 oed ac sydd angen cymorth ataliol ac arweiniad i berchnogaeth cŵn.
Bydd ein tîm arbenigol yn gallu eich helpu chi a’ch ci gyda chyngor a gwybodaeth ymarferol, ac mi fydd popeth yn cael ei gyflwyno mewn ffordd gartrefol, heb feirniadu.
Pam wyf i wedi cael fy atgyfeirio?
Mi ydych wedi cael eich atgyfeirio neu eich cynghori drwy un o’n partneriaid atgyfeirio (hynny yw, yr heddlu neu’ch awdurdod lleol) oherwydd trosedd lefel isel, neu ddigwyddiad yn ymwneud â chi.
Pa mor hir fydd y cwrs yn para?
Bydd y cwrs ar-lein hwn yn cymryd tua thair awr, gan gynnwys egwyl.
Sut mae’n cael ei gyflwyno?
Mewn grwpiau bychain ac ar-lein fel cwrs rhithwir byw. Bydd angen cysylltiad rhyngrwyd da arnoch a defnydd o gyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar i gymryd rhan.
Faint mae’r cwrs yn ei gostio?
Mae’r cwrs yn costio £60 ac ni ellir hawlio’r ffi yn ôl. Os ydych ar fudd-dal prawf modd ac yn gallu dangos prawf efallai y codir llai arnoch. Bydd yn rhaid talu unrhyw gost cyn i chi ddechrau ar y cwrs.
Bydd yr holl elw a wneir yn sgil y cwrs hwn yn ariannu nod ein helusen o helpu anifeiliaid anwes sy’n sâl, wedi eu hanafu neu sy’n ddigartref, a’r bobl sy’n eu caru.
Pa bryd fydd angen imi fynd ar y cwrs?
Bydd yn rhaid i chi gwblhau’r cwrs o fewn y terfyn amser a bennir ar gyfer pob cwrs unigol. Bydd hyn fel arfer o fewn dim mwy na thri mis o ddyddiad y drosedd oni bai bod trefniant arall wedi’i wneud.
Pan fyddwch yn mynd ar y cwrs
- Bydd hwn yn gwrs rhyngweithiol, ar-lein lle byddwch yn cael eich gwahodd i gymryd rhan mewn trafodaeth gwaith grŵp, ac i fyfyrio a dysgu mewn awyrgylch cyfeillgar heb feirniadu
- Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno gan aelod o dîm y Groes Las ochr yn ochr â grŵp bychan a fydd ar y cwrs
- Bydd angen i chi ddangos prawf adnabod pan fyddwch yn mynychu’r cwrs
- Bydd angen i chi fod yn bresennol ac yn talu sylw drwy gydol y cwrs i allu ei gwblhau’n llwyddiannus
- Nid oes angen i’ch ci fynychu’r cwrs, mae’n sesiwn sy’n canolbwyntio ar y perchennog yn unig